Amdanon Ni
Cyfleusterau
Mae’r adeilad, ysgol y pentref gynt, wedi’i adnewyddu’n helaeth i greu canolfan awyr agored fodern a chyfarparedig. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys:-
Ein Hethos
Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Nantyr yn ymdrechu i ddarparu profiadau addysgol awyr agored diogel, pleserus a chadarnhaol drwy bob cwrs a ddarparwn. Rydym yn ceisio:-
Yn ystod ein cyrsiau anogir myfyrwyr i ddod i wybod a deall bod y sgiliau cyffredinol y maent yn eu dysgu’n werthoedd trosglwyddadwy ac mai’r nod cyffredinol yw datblygu eu heffeithiolrwydd fel dinasyddion yn y gymuned ehangach.
Hanes Nantyr
Adeilad Canolfan Addysg Awyr Agored
Nantyr oedd yr ysgol bentref ar gyfer cymuned yr ardal yn wreiddiol. O’r
1950au y perchnogion oedd Ysgol Uwchradd Fodern St George o Gilgwri a ddefnyddiai’r
adeilad yn ganolfan i’w gwaith preswyl a’u hastudiaethau maes.
Daeth i berchnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym 1991 a fu’n
gofalu am ei datblygiad hyd at heddiw. Yn 2008 bydd datblygiad pellach
yn y ganolfan pan ychwanegir ystafell hyfforddiant / hamdden amlbwrpas.
Er bod y math o ddefnydd wedi newid rydym yn falch bod yr adeilad yn dal
i weithredu fel cyfleuster ar gyfer pobl ifanc a’r gymuned leol.