| neilltuaeth | ymwrthodiad | ddiogelwch |

Gweithgareddau

Gweithgaredd Disgrifiad o’r gweithgaredd
(chlecia acha unrhyw photo at agor)
Lleoliadau a ddefnyddir yn aml **
Cerdded bryniau
Allt yn cerdded dwr

Her fawr bersonol a her i’r grŵp, dewisir y teithiau i ymateb i amcanion a dyheadau’r grŵp ac i fforio amgylcheddau bendigedig yr ucheldir lleol. Anogir cyfranogwyr i fod yn gyfrifol am weithgareddau’r diwrnod, bod yn rhan o ddewis llwybr y daith, cyfrifoldeb personol a chyfrifoldeb grŵp ac arwain y grŵp. Datblygir sgiliau mordwyo ac ymwybyddiaeth well o’r amgylchedd awyr agored lleol ar y bryn.

Diben:

  • Cyrraedd y brig! Llwyddo i gyrraedd y copa (neu nod cytunedig y grŵp, yn ddibynnol ar allu ac amgylchiadau) fel rhan o daith.
  • Her bersonol ac i’r grŵp, datblygu ymwybyddiaeth grŵp a dynameg grŵp.
  • Ymgymryd â gweithgaredd mewn amgylchedd newydd ac anghyfarwydd.

Canlyniadau:

  • Cyfrifoldeb personol a chyfrifoldeb grŵp.
  • Mwy o ymwybyddiaeth o amgylchedd yr ucheldir a mwy o barch tuag ato.
  • Addasu i amgylcheddau’n newid, a newid yn y tywydd a’r hinsawdd.
  • Arwain, cael eu harwain a rhannu.
  • Perchnogaeth o brofiad.
  • Sgiliau mordwyo.
  • Cyflwyniad i weithgaredd a allai fod yn weithgaredd oes.

Mynyddoedd y Berwyn

Bryniau Clwyd

 

Cyfeiriannu
Cyfeiriannu

Bydd ymarferion cychwynol yn datblygu darllen map, mordwyo a sgiliau gwneud penderfyniadau a hynny’n arwain i gystadleuaeth hwyliog gan weithio mewn grwpiau bychan.

 

Diben:

  • Datblygu sgiliau darllen map.
  • Cyflwyno’r goedwig fel amgylchedd awyr agored.
  • Datblygu hyder drwy wneud penderfyniadau llwyddiannus.

Vanlyniadau:

  • Dealltwriaeth o gyfeiriadu, graddfa a phellter, ymwybyddiaeth ofodol.
  • Bod yn rhan o ddod i farn a gwneud penderfyniadau.
  • Cyflwyniad i weithgaredd/chwaraeon hygyrch gydol oes.

Coedwig Ceiriog

Parc Gwledig Dyfroedd Alun


Dringo creigiau ac abseilio
Dringo creigiau ac abseilio

Cyflwyniad gwych i’r gamp gyffrous hon, gan ddefnyddio ein wal artiffisial ar y safle a chreigiau lleol tu allan. Bydd cyfranogwyr yn dysgu trin rhaff a sgiliau diogelwch ac yna’n gweithio mewn grwpiau bach er mwyn mwynhau datblygu technegau dringo a symud. Mae abseilio yn golygu defnyddio rhaffau i ddod i lawr wyneb craig a gellir ei gynnwys yn y sesiwn ddringo neu ei drefnu fel gweithgaredd ar wahân.

Diben:

  • Cyflwyno a/neu ddatblygu technegau sy’n berthnasol i symud dros greigiau a diogelwch yn y gweithgaredd.
  • Rhoi profiad addysgol gyda grwpiau bychan yn rhannu cyfrifoldeb am ei gilydd.
  • Datblygu hunan hyder a ffydd mewn eraill.

Deilliannau:

  • Teimlad o gyflawniad a goresgyn her.
  • Rhannu cyfrifoldeb, ffydd mewn cyfoedion ac ymwybyddiaeth o diogelwch.
  • Sylfaen ar gyfer gweithgaredd hamdden.

Creigiau Pandy ger Glynceiriog

Chwarel Trefor ger Llangollen

Sgrialu drwy geunentydd
Sgrialu drwy geunentydd

Gweithgaredd cyffrous a llawn her, mae’r grŵp yn cydweithio i fordwyo drwy geunant wrth sgrialu a dringo (byddwch yn barod i wlychu!).

 

Diben:

  • Datblygu technegau perthnasol i symud dros greigiau mewn amgylcheddau newydd a heriol.
  • Darparu profiad addysgol gyda phwyslais ar ‘perygl amlwg’.
  • Hyrwyddo rhannu cyfrifoldeb ymysg aelodau grŵp er diogelwch pawb.

Canlyniadau:

  • Teimlad o gyflawniad a goresgyn her.
  • Dyfalbarhad, ymroddiad ac ymdopi gyda’r annisgwyl.
  • Rhannu cyfrifoldeb, ffydd mewn cyfoedion ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch.

Nant Y Ffrith gorge

Afon Ddu

Canŵio
a
Chaiacio


Canwio a Chaiacio

Bydd cyfranogwyr yn gweithio mewn tîm bach mewn cwch (2 neu 3) ac yn mynd ar y dŵr ar eu pen eu hunain mewn fawr o dro. Bydd ymarferion cynyddol yn sicrhau bod y myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau’n sydyn gyda digon o amser am hwyl, gemau a theithio.

Wrth badlo’u caiac eu hunain bydd y myfyrwyr yn dysgu sgiliau a magu hyder yn fuan iawn yn y gamp hwyliog hon. Ffordd wych i fynd allan ar y dŵr yn eich cwch eich hunan o dan lygad barcud yr hyfforddwr. Prif ffocws y sesiwn fydd datblygu sgiliau, hwyl a gemau.

Diben:

  • Her bersonol ynghyd â chyfrifoldeb am hunan ac eraill.
  • Gweithio’n unigol neu mewn tîm bychan.
  • Dull o deithio’n ddiogel, bod yn hunan gynhaliol ac yn hunan-yredig.
  • Caffael cyfres o sgiliau cynyddol, magu hyder a gallu personol.

Canlyniadau:

  • Teimlad o gyflawniad ac wynebu her.
  • Rhannu cyfrifoldeb, ffydd mewn cyfoedion ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch.
  • Dealltwriaeth gynyddol o amgylcheddau dŵr.
  • Cyflwyniad i weithgaredd gydol oes, o bosibl.

Camlas
Llangollen

Llyn Tegid

Afon Hafren


Ymarferion datblygu tîm a menter
Ymarferion datblygu tîm a menter

Gan weithio mewn grwpiau bychain, defnyddir tasgau hwyliog ac ymarferion datrys problemau i archwilio ac adolygu elfennau o waith tîm.

 

Diben:

  • Her bersonol.
  • Gwella sgiliau a’r ffactorau sy’n gynhenid mewn gwaith tîm llwyddiannus.
  • Cyfrifoldeb grŵp/ar y cyd sy’n mynnu cydweithrediad a sgiliau datrys problemau.
  • Defnydd ymarferol o fodelau tîm, rheoli ac arwain.

Canlyniadau:

  • Teimlad o gyflawniad ac wynebu her.
  • Meithrin tîm a hunan barch.
  • Canlyniadau ‘bywyd go iawn’ i’r cynllunio, cydweithredu, cyfathrebu ac ati.

Ar y safle yn Nantyr

Coedwig Ceiriog

Mynyddoedd y Berwyn a Bryniau Clwyd

 

Alldeithiau dros nos Caiacio dŵr gwyn
Mae’r gweithgareddau eraill a gynigir yn Nantyr yn cynnwys:
Naid mewn Ffydd Crefftau’r gwylltir
Alldeithiau dros nos
Caiacio dŵr gwyn*
 
Cwrs rhaff isel 5 elfen a’r “Naid mewn Ffydd”
Crefftau’rgwylltir
  Adeiladu rafft byrfyfyr
Beicio mynydd
Rafftio dŵr gwyn
 
 
Adeiladu rafft byrfyfyr
Beicio mynydd*
Rafftio dŵr gwyn
 

*Nid yw’r gweithgareddau hyn ar gael bob amser a bydd cost ychwanegol amdanynt.

** Dewisir lleoliadau penodol ar y dydd gan hyfforddwr y gweithgaredd gan ystyried yr amgylchiadau cyffredinol, yr amser sydd ar gael ac anghenion y grŵp ac efallai na fyddant yn cynnwys y lleoliadau a restrir uchod.

Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Nantyr yn cydnabod y gwaith a gynhyrchwyd gan ein cydweithwyr Addysg Awyr Agored yng Nghyngor Sir Gaer (pwrpas a chanlyniadau) a ddefnyddiwyd fel fframwaith i’r ddogfen hon.

 

English
English