Cyrsiau a Digwyddiadau
Rhaglen
Trefnir cyrsiau i ymateb i amcanion, gofynion a disgwyliadau grwpiau unigol. Gall cyrsiau amrywio mewn hyd a gellir eu cynllunio i ganolbwyntio ar un thema benodol, maes arbennig neu i gefnogi cynlluniau addysgol. Anogir arweinyddion partïon i gysylltu â’r ganolfan i drafod eu hanghenion.
Astudiaethau amgylcheddol a gwaith maes
Mae amrywiaeth eang o safleoedd gwaith maes yn y cyffiniau, pob un o fewn pellter gyrru hawdd i’r ganolfan. Gall y ganolfan ddarparu cefnogaeth dechnegol a bod yn ganolfan ddelfrydol i ysgolion ac athrawon estyn eu gwaith cwricwlaidd i’r amgylchedd awyr agored.
Prifysgol y Plant
Ein nod yw achredu ymdrechion a chyflawniadau pobI ifanc wrth gymryd rhan mewn cyrsiau a redir gan Ganolfan Addysg Awyr Agored Nantyr drwy raglen Prifysgol y Plant Wrecsam (rhaid bodloni rhai meini prawf cymhwyso penodol).
Gwobr John Muir
Cynllun gwobr amgylcheddol sy’n canolbwyntio ar leoedd gwyllt yw Gwobr John Muir. Mae’r amgylcheddau sy’n agos i’r ganolfan a’r gweithgareddau sydd ar gael yn addas ar gyfer cyflawni’r wobr. Mae’n wobr anghystadleuol, yn agored i bawb ac yn fenter addysgol gan Ymddiriedolaeth John Muir. Mae’n annog darganfod a gwarchod lleoedd gwyllt, mewn ysbryd o hwyl, antur a fforio. (Rhaid bodloni rhai meini prawf cymhwyso).
Beth hoffech chi ei wneud?
Yn Nantyr rydym yn ymdrechu i ddatblygu
defnydd eang ac amrywiol o’r
ganolfan a’i hadnoddau er mwyn ei bod ar gael i gymaint â phosibl
o ddefnyddwyr gwahanol. Byddem yn rhoi cefnogaeth gadarnhaol i unrhyw awgrymiadau
neu syniadau ar gyfer defnydd amgen o’r ganolfan, pe byddent yn cyd-fynd â’n
hamcanion ni.