Yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Nantyr:![]()
Mae Nantyr yn ganolfan addysg awyr agored yn nyffryn godidog afon Ceiriog, 4 milltir o bentref Glyn Ceiriog. Wrth odre mynyddoedd y Berwyn, mae’r ganolfan mewn lle delfrydol i elwa ar y mannau ac adnoddau awyr agored niferus a gwych sydd yn yr ardal.
‘Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd addysg awyr agored llawn her ac o’r radd flaenaf i bawb, mewn amgylchedd dysgu diogel a difyr’
Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Nantyr wedi ei thrwyddedu i ddarparu’r gweithgareddau canlynol:
Mae cyfleusterau CAAA Nantyr yn cynnwys llety preswyl hunanarlwyo ar gyfer hyd at 20 o bobl. Mae’r cyfleusterau hyn ar gael hefyd i bobl ddod i aros efo’u rhaglenni eu hunain a llogi am y dydd.
![]()
| neilltuaeth | ymwrthodiad | ddiogelwch |