Diogelwch
![]()
Diogelwch
Diogelwch yw ein prif ystyriaeth yn Nantyr; mae pob staff a gyflogir gan y ganolfan wedi’u hyfforddi ac yn brofiadol gyda chymwysterau cenedlaethol ar gyfer arwain gweithgareddau awyr agored. Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Nantyr wedi’i chofrestru gyda’r Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur ac yn drwyddedig i ddarparu gweithgareddau penodol o dan y penawdau canlynol: dringo, chwaraeon dŵr a hirdeithio. Gellir cadarnhau'r manylion trwyddedu trwy ffonio'r Awdurdod Trwyddedu, ffôn 029 2075 5715. Yn ychwanegol at hyn rydym yn gweithredu i safonau diogelwch llym a osodwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn gweithio o fewn canllawiau'r Corff Llywodraethol Cenedlaethol.
Offer
Mae gan y ganolfan gyfarpar llawn ac mae’n darparu’r holl offer diogelwch a dillad arbenigol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Mae’r holl offer a ddarperir gan y ganolfan yn cyrraedd y safonau diogelwch diwydiannol perthnasol ac fe’u gwirir yn rheolaidd a chedwir cofnod o hynny.